Yr Ardal Leol

Tref Aberteifi – tref farchnad ddeniadol ar lan ogleddol Penrhyn Sir Benfro. Mae’r dref uwchben Bae Ceredigion, sy’n Ardal Gadwraeth Arbennig. Yn y Bae mae poblogaeth o tua 130 o ddolffiniaid trwynbwl  yn byw, a gwelir llamhidyddion yn ogystal â morloi llwyd yn aml yn agos i’r glannau.  Mae’r ardal hefyd yn rhan o Arfordir Treftadaeth Ceredigion.

Hanes

Hanes terfysglyd maith sydd i’r dref ei hun. Hi oedd prif dref hen dywysogaeth Deheubarth.

Pan ymosododd y Normaniaid gyntaf ar y dywysogaeth ddiwedd yr 11fed ganrif, roedd Aberteifi yn un o’r mannau roeddent am eu cipio. Adeiladwyd Castell Aberteifi ganddynt ar lannau afon Teifi, ond ni threchwyd y Cymry. Cipiwyd ac ailgipiwyd y dref lawer gwaith yn ystod y 12fed ganrif, ond erbyn heddiw mae gorthwr y castell a’r ddau dŵr i’w gweld ac ar agor i’r cyhoedd.

Mwynderau'r Dref

Mae tref Aberteifi yn ymfalchïo mewn amrywiaeth o fwytai a bariau, gyda rhywbeth at ddant pawb. Mae yna hefyd ystod eang o siopau lleol, sy’n darparu popeth y gallent ei eisiau a’i angen i ymwelwyr.

Llwybr Cenedlaethol

Mae Aberteifi ychydig i’r gogledd o ffin Parc Cenedlaethol Sir Benfro, ac mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro pellter hir yn cychwyn ychydig y tu allan i’r dref. Gellir cerdded ar hyd y llwybr mewn darnau byr er mwyn cael cyflwyniad hawdd i’r arfordir hynod brydferth hwn.


2019 © ‧ All rights reserved

Web Design by United Studios