Hostel Hedd

Y ganolfan berffaith i archwilio Sir Benfro a Cheredigion

Croeso i Hostel Hedd

Hostel gyfeillgar a chynhwysol yn nghanol tref Aberteifi.  Yn hen orsaf heddlu Aberteifi mae Hostel Hedd, ac mae’n darparu ystafelloedd cyffyrddus am brisiau rhesymol i deithwyr sy’n chwilio am fan cychwyn gwych i archwilio Arfordir Gorllewin Cymru.

Yr Ardal o Gwmpas

Tra byddwch yn aros yn Hostel Hedd, fyddwch chi byth yn brin o bethau i’w gwneud. P’un a fyddwch eisiau archwilio natur a gweld mwy o arfordir hardd Cymru, neu am gael mwy o gyffro ar gefn beic mynydd neu neidio o ben clogwyni, bydd popeth fydd arnoch ei angen o fewn cyrraedd. Mae yn Aberteifi nifer fawr o fariau, tafarndai a thai bwyta arbennig, i gyd o fewn cyrraedd ar droed. Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod rhagor.

Llety

Yn Hostel Hedd rydyn ni’n cynnig nifer o wahanol ddewisiadau llety at ddant pawb. Rydyn ni’n darparu digon o le i grwpiau, teuluoedd ac unigolion. I weld ein dewis o ystafelloedd cliciwch ar y ddolen isod.

Eisiau llogi?

Os hoffech weld mwy o arfordir Gorllewin Cymru ac archwilio’r ardal, cliciwch ar y ddolen isod i drefnu lle.


2019 © ‧ All rights reserved

Web Design by United Studios