Llety

Y Gwelyau Bync

Gan ddefnyddio celloedd ac ystafelloedd yr Heddlu, mae’r Gwelyau Bync yn cynnig profiad unigryw drwy fod gennych ddewis o gysgu yn un o’r celloedd a ddefnyddid gynt gan swyddogion yr orsaf ar gyfer troseddwyr Tref Aberteifi.  Mae’r Cwrt sydd wedi ei adnewyddu yn darparu digon o le i ymlacio fel ystafell gyffredin ar gyfer y llety

Ein Cyfleusterau

1 x ystafell i’r anabl – ar gyfer 2

3 x celloedd heddlu gyda gwely sengl uwchben gwely dwbl – ar gyfer 3

1 x cell heddlu gyda 2 wely bync – ar gyfer 2

1 x ystafell deulu gyda chawod/toiled en-suite – ar gyfer 5 (Crudiau ar gael)

1 x ystafell gysgu – ar gyfer 10

6 x cawodydd a thoiledau ar gyfer yr ystafelloedd

1 x cawod/toiled i’r anabl

Mannau Cymunedol

Y Cwrt yw’r ystafell gyffredin / ystafell gymunedol ar gyfer gwesteion. Mae yno seddau i ymlacio a systemau adloniant a gallwch ddefnyddio cardiau a gemau bwrdd.

Yn y gegin i’r gwesteion mae 2 ffwrn, 2 bentan (hob), 2 oergell/llaethdy, 1 rhewgell a 2 sinc, man i wneud te a choffi  a digon o fannau gweithio i baratoi bwyd.

Mae cyfleusterau golchi dillad ar gael hefyd gyda pheiriant golchi a sychwr.

Mae lle parcio diogel yn y cefn a lle i gadw eitemau tywydd gwlyb.

Termau ac Amodau

Rydym yn caniatau anifeiliaid anwes, ac mae croeso mawr i gŵn cymorth.

∙ Dydyn ni ddim yn caniatau smygu mewn unrhyw ran o Hostel Hedd.

∙ Bydd aelod o’r staff ar gael ar y safle fel rheol, gan gynnwys yn y nos (gellir cysylltu drwy ffôn argyfwng wrth y dderbynfa). Pan fydd  y dderbynfa ar gau yn ystod y dydd, efallai na fydd neb ar gael ar y safle.

∙ Mae goleuadau argyfwng a larymau tân wedi eu gosod.

∙ Monitorau CCTV mewn ystafelloedd cyffredin a choridorau.

Rydym yn sicrhau bod yr holl westeion yn cael eu hebrwng allan os bydd tân neu unrhyw argyfwng lle bydd angen cael pawb allan. Dylech drafod ymlaen llaw unrhyw drefniadau ar gyfer gwesteion a fydd ag angen cymorth i fynd allan os bydd tân.

∙ Mae’r trefniadau ar gyfer gorfod mynd allan i’w gweld ym mhob ystafell wely.

∙ Gall derbyniad ffonau symudol amrywio o fewn yr hostel, yn ôl y rhwydwaith.

∙ Mae cyfleustra WIFI ar gael yn yr ystafelloedd gwelyau bync i gyd.

 


2019 © ‧ All rights reserved

Web Design by United Studios