Mae Hostel Hedd o fewn hen Oesaf Heddlu a Chwrt Aberteifi. Agorwyd Gorsaf yr Heddlu ar 1 Medi 1895 a bu’n gwasanaethu’r dref tan fis Mehefin 2010. Prynwyd yr adeilad a’r Cwrt drws nesaf gan y grŵp cymunedol 4CG a throi’r lle yn gyfleustra gwelyau bync sydd â’i angen yn fawr ar gyfer pobl sy’n ymweld ag Aberteifi.
Enw llawn 4CG yw Cymdeithas Cynnal a Chefnogi Cefn Gwlad, cymdeithas gydweithredol wedi ei sefydlu i hyrwyddo datblygiad cymunedol drwy adfywio Aberteifi a’r ardal o gwmpas.
Ffurfiwyd 4CG gan grŵp bychan o bobl leol a oedd yn teimlo y gallent wella ardal Aberteifi drwy ddatblygu ac annog y cyfleoedd presennol. Mae’n canolbwyntio ar yr economi leol ac yn ceisio annog pobl leol i siopa’n lleol i gefnogi busnesau bach lleol gan atal yr holl arian lleol rhag mynd i bocedi cyfranddalwyr o bell mewn cwmniau mawr.
Os hoffech weld mwy o arfordir Gorllewin Cymru ac archwilio’r ardal, cliciwch ar y ddolen isod i drefnu lle.